Gwych sain,
Fydd eto am y goron ddrain,
Yr hoelion llym, a'r bicell fain,
Wrth gofio rhain
caiff uffern glwy'
Cadwynau tynion ddaw yn rhydd,
Fe gaed y dydd, Hosanna mwy.
Gras, gras,
Yn genllif grymus ddaeth i maes,
Grisialaidd afon loew las,
Rhinweddol flas i'r euog rai;
Lle i bechaduriaid yma gaed,
I'w cànu'n rhad oddiwrth bob bai.
I'r làn,
Os bydd in' dd'od o'r anial fân,
Bydd hyfryd seinio yn y màn,
Pawb yn ei ran yn moli'r Oen,
Mewn melus anthem, newydd iaith,
Ar ben y daith
heb friw na phoen.
Tonau [288.888]: gwelir: Gras gras (Yn genllif gymus ddaeth i maes) O tyn (Y gorchudd yn y mynydd hyn) Pa le (Y gwnaf fy noddfa dan y ne')? |
A brilliant sound,
Shall yet be about the crown of thorns,
The sharp nails, and the pointed spear,
On remembering these
hell shall get a wound
Prisoners held tightly shall go free,
The day was won, Hosanna evermore.
Grace, grace,
As a strong torrent came forth,
A transparent glowing crystal river,
A virtuous taste for the guilty ones;
A place for sinners here was had,
To be bleached freely from every fault.
Up,
If we are to come from the desert place,
It will be delightful to sound in a while,
Everyone in their part praising the Lamb,
In a sweet anthem, a new language,
At the journey's end
without wound or pain.
tr. 2023 Richard B Gillion |
|